Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y rhaglen Hinsawdd a’r rhaglen Libra gan Tech Nation.
Climate: Catalysing The Growth Of Climate Tech
Dyma raglen dwf ar gyfer busnesau newydd ym maes yr hinsawdd, sydd wedi ymrwymo i leihau allyriadau byd-eang, dileu gwastraff y byd, ac adfer natur.
Bydd dros 45% o’r gostyngiadau mewn allyriadau sydd eu hangen er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050 yn deillio o fabwysiadu technolegau ym maes yr hinsawdd sydd wrthi’n cael eu datblygu. Ein nod ni yw diogelu’r twf hwn. Yr hinsawdd yw’r man lansio eithaf ar gyfer busnesau newydd ym maes technoleg yr hinsawdd! Mae ein rhaglen yn ymroi i gataleiddio arloesi ym maes yr hinsawdd wrth ddarparu’r offer a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar sylfaenwyr i drawsnewid eu syniadau’n realiti.
Libra: Diversity Drives Innovation
Libra yw’r rhaglen dwf ar gyfer sylfaenwyr heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes technoleg sy’n ceisio cefnogaeth ar gyfer eu taith wrth ehangu. Mae cymunedau Du ac Aml-Ethnig y Deyrnas Unedig (DU) yn cyfrif am 14% o boblogaeth y DU, ac eto derbyniodd timau ethnig yn unig gyfartaledd o 1.7% o’r buddsoddiadau cyfalaf menter a wnaed ar gyfer sbarduno ac yng nghamau cynnar a hwyr busnesau rhwng 2009 a 2019. Yn achos menywod du, y ffigur oedd 0.02%.
Mae Libra yn ymroi i rymuso a chysylltu sylfaenwyr heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes technoleg, gan roi’r wybodaeth, y cysylltiadau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ehangu eu busnesau newydd.
Gofynnir i chi gyflwyno eich ceisiadau ar gyfer y ddwy raglen erbyn dydd Llun 27 Tachwedd 2023.