BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhagor o fusnesau am elwa ar gynllun benthyg Llywodraeth y DU

Mae newidiadau i’r rheolau cymorth gwladwriaethol yn golygu y gall mwy o fusnesau bach elwa nawr ar fenthyciadau o hyd at £5 miliwn dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws. 

Yn flaenorol, nid oedd busnesau a oedd yn cael eu hystyried yn ‘gwmni mewn trafferthion’ yn gallu manteisio ar y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws oherwydd rheolau’r UE. Gall busnesau yn y categori hwn ac sydd â llai na 50 o weithwyr a throsiant o lai na £9 miliwn wneud cais am y Cynllun.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.