BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhagor o waith yn cael ei wneud ar Bont y Borth

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun, 4 Medi 2023 i adfer Pont y Borth (Pont Menai) i sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn pryd ar gyfer ei 200mlwyddiant.

Fel ail gymal y gwaith, caiff rhodenni fertigol parhaol newydd eu gosod, hynny ar ôl cyfnod o ddatblygu a phrofi trylwyr, yn ogystal â gwaith peintio helaeth.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Spencer Group a’i oruchwylio gan UK Highways A55 Limited a Llywodraeth Cymru.

Penderfynwyd ar y dyddiad dechrau rhag amharu ar draffig gwyliau’r haf a disgwylir i’r gwaith ddod i ben ddiwedd haf 2025 – cyn 200mlwyddiant y bont ym mis Ionawr 2026.

Mae’r rhaglen waith wedi’i threfnu fel na fydd angen cau’r bont yn llwyr a chaiff system rheoli traffig ei gweithredu i leihau’r anhwylustod i drigolion lleol.   

Mae cyhoeddiad heddiw’n cael ei wneud yn sgil gosod rhodenni fertigol dros dro yn gynharach eleni. Er mwyn gallu ei orffen mewn pryd, bydd y gwaith yn para dros wyliau Pasg, gwyliau hanner tymor a gwyliau haf. Bydd hynny’n cadw unrhyw oedi oherwydd y tywydd mor fach â phosibl.

Yn ystod yr wythnos, gweithir rhwng 7 y bore a 7 yr hwyr.  Dim ond un lôn fydd yn cael ei chau yn ystod oriau gwaith. Bydd y goleuadau traffig yn cael eu rheoli â llaw yn ystod oriau brig er mwyn sicrhau bod y traffig yn llifo mor esmwyth â phosibl wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Rhagor o waith yn cael ei wneud ar Bont y Borth | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.