BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhentu Doeth Cymru

Mae Rhentu Doeth Cymru yn cynorthwyo'r rhai sy'n gosod neu'n rheoli eiddo rhent yng Nghymru i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau Deddf Tai (Cymru) 2014 ac yn rhoi cyngor ar rentu cartrefi diogel ac iach. Maent hefyd yn prosesu cofrestriadau landlordiaid, yn rhoi trwyddedau ac yn darparu hyfforddiant llawn gwybodaeth a pherthnasol i'r rhai sy'n ymwneud â'r farchnad rentu ar-lein neu mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.

Pwy sydd angen cofrestru?

Rhaid i landlordiaid, y rheiny sydd â hawl i feddiannu'r eiddo rhent, gwblhau cofrestriad. Landlordiaid, dysgwch fwy am eich rhwymedigaethau cyfreithiol a'ch eithriadau gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/landlord/landlord-registration/  

Pwy sydd angen trwydded?

Rhaid i landlordiaid sy'n gosod neu'n rheoli eu heiddo eu hunain a'r rhai sy'n gosod neu'n rheoli ar ran eraill gael trwydded i wneud hynny. Defnyddiwch y ddolen ganlynol https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/licensing/  i gael gwybodaeth am sut i gychwyn arni  

Wedi derbyn hysbysiad i adnewyddu?

Darllenwch yr hysbysiad yn ofalus i ddeall a yw'n ymwneud â'ch cofrestriad landlord neu'ch trwydded gan fod y rhain yn ddwy broses ar wahân. Dysgwch fwy am y camau nesaf. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/renewal/ 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.