O dan y cyfyngiadau presennol, mae hi’n anhebygol y byddwch yn teithio dramor, ond os ydych chi’n bwriadu teithio i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir at ddibenion gwaith neu fusnes yn y dyfodol, dylech:
- Weld a oes angen i chi wneud cais am fisa, trwydded waith neu ddogfennaeth arall.
- Hefyd, bwrwch olwg ar wefannau’r wlad berthnasol i weld manylion gofynion gwneud cais ac amseroedd prosesu os oes angen i chi wneud cais, a gwnewch gais mewn da bryd cyn teithio. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, gwnewch gais mor gynnar â phosibl.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.