BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheolau Nwyddau mewn Bagiau wrth deithio i ac o’r UE

Os ydych chi’n teithio dramor ar ôl 1 Ionawr 2021 at ddibenion busnes, byddwch angen bod yn ymwybodol o rai newidiadau i reolau os ydych chi’n dod â nwyddau masnachol i mewn neu allan o’r DU.

Mae’n rhaid i chi gwblhau datganiad wrth ddod i mewn i’r DU neu adael y DU os ydych chi’n cludo nwyddau i’w gwerthu neu eu defnyddio gan fusnes:

  • gyda gwerth nad yw’n uwch na £1,500 (€1,000 ar gyfer Gogledd Iwerddon) a ddim yn pwyso mwy na 1,000kg.
  • ac nad ydynt yn cael eu dosbarthu fel nwyddau ecseis neu gyfyngedig.

Gallwch wneud hyn naill ai drwy ddatganiad ar-lein hyd at bum diwrnod i gyrraedd neu adael y DU neu wneud datganiad trwy fynd i’r pwynt sianel goch neu ffôn coch wrth fynd drwy'r tollau.

O ran nwyddau masnachol sy’n werth mwy na £1,500 (€1,000 ar gyfer Gogledd Iwerddon) neu sy’n pwyso mwy na 1,000kg, neu os ydych chi’n cludo nwyddau ecseis neu gyfyngedig, mae’n rhaid i chi neu’ch asiant tollau wneud datganiad tollau llawn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.

Beth am ymweld â Phorth Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.