Rheolau tarddiad yw un o’r gofynion masnachu pwysicaf sydd angen i chi eu deall a’u cyflawni os yw’ch busnes yn prynu neu werthu nwyddau yn rhyngwladol. Defnyddir y rheolau hyn mewn cytundebau masnach rhwng gwahanol wledydd, fel cytundeb y DU gyda’r UE - sef y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Defnyddir y rheolau i bennu gwlad tarddiad nwyddau sy’n cael eu mewnforio a’u hallforio ac a ydynt yn gymwys i gael tariffau ffafriol.
Gyda thariffau sero ffafriol TCA y DU-UE, os ydych chi’n prynu nwyddau o’r UE ac yn dod â nhw i mewn i’r DU, a’u bod yn bodloni’r rheolau tarddiad yn y TCA, ni fydd angen i chi dalu unrhyw Doll Dramor ar y mewnforion hynny. Bydd eich cwsmeriaid yn yr UE yn gallu gwneud yr un fath ar gyfer nwyddau y maen nhw’n eu prynu o’r DU.
Mae rhagor o wybodaeth am reolau tarddiad wrth fasnachu rhwng y DU a'r UE yn GOV.UK.
Gallwch hefyd wylio 'Rules of origin recorded webinar' am wybodaeth am sut i wirio a yw’ch nwyddau yn bodloni’r gofynion tarddiad.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i brofi tarddiad nwyddau rydych chi'n eu masnachu rhwng y DU a'r UE yn GOV.UK.
O 1 Ionawr 2022, os ydych chi’n gwneud datganiadau ar darddiad nwyddau rydych chi’n eu hallforio i’r UE, mae’n rhaid i chi gael datganiadau cyflenwyr (os oes angen) ar yr adeg rydych chi’n allforio’ch nwyddau.
Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio datganiadau cyflenwyr i gefnogi tystiolaeth o darddiad yn GOV.UK.