BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheolau Tarddiad: Gwiriwch fod eich nwyddau'n cydymffurfio â masnach ddi-dariff gyda'r UE

Mae Rheolau Tarddiad yn ymwneud â lle cafodd cynnyrch ei weithgynhyrchu ac yn pennu 'cenedligrwydd economaidd' nwydd ar gyfer masnach ryngwladol. 

Mae angen i fusnesau wybod amdanyn nhw oherwydd bod y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn golygu y gallant fasnachu gyda'r UE heb dalu tariffau – cyn belled â bod eu cynnyrch yn bodloni'r Rheolau Tarddiad perthnasol.

Er mwyn allforio'n ddi-dariff i’r UE, rhaid i fasnachwyr wirio bod eu nwyddau'n bodloni'r gofynion Rheolau Tarddiad sydd yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a chael y dogfennau cywir. 

I gadarnhau'r gofynion ar gyfer eich nwyddau a chael mwy o fanylion am y cymorth sydd ar gael, dylai busnesau:

Rheolau Tarddiad yw un o bynciau trafod y fideos ar alw newydd sy'n canolbwyntio ar bynciau o bwys i fusnesau. Gallwch hefyd ddefnyddio'r adnodd gwirio Brexit gov.uk/transition, sy'n rhoi rhestr wedi’i phersonoleiddio i chi o'r camau gweithredu diweddaraf i'w cymryd fel busnes.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach neu os oes angen cyngor busnes cyffredinol arnoch, trowch i'r cwestiynau am dollau a threthi ac ymholiadau eraill am ffiniau

Ceir canllawiau a hyfforddiant penodol ar symud nwyddau i mewn ac allan o Ogledd Iwerddon yn Gov.UK.

Am ragor o wybodaeth am sut mae paratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.