Ymunwch â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) am ddwy weminar rhad ac am ddim er mwyn helpu’ch busnes i baratoi ar gyfer diwedd cyfnod pontio y DU.
Cynhelir y digwyddiad cyntaf ar-lein ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020, ac yna ail ddigwyddiad ddydd Mercher 20 Ionawr 2021.
Bydd y ddau ddigwyddiad ar agor o 10 y bore er mwyn rhoi digon o amser i chi ymuno – ac yn para o 10:15 tan 1pm.
Bydd y gwemiarau yn cynnwys:
- sesiynau gan HSE ar weithdrefnau Rheoliadau Cynhyrchion Bioladdol (BPR), Dosbarthu, Labelu a Phecynnu (CLP) and Chydsyniad Ymlaen Llaw (PIC)
- sesiynau gan HSE a Defra ar Gynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP) a Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegion (REACH)
Bydd y digwyddiadau’n canolbwyntio ar sicrhau bod busnesau yn barod, bod mynychwyr yn ymwybodol o’r dyletswyddau a’r rhwymedigaethau sydd angen cydymffurfio â nhw er mwyn cael mynediad i farchnad Prydain Fawr ar ôl diwedd y cyfnod pontio a sut gellir bodloni’r gofynion hyn.
Rhagor o fanylion ar wefan DEFRA.