Hoffai llywodraeth San Steffan newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod cynhyrchion ‘clyfar’ – fel setiau teledu, camerâu ac offer cartref sy’n cysylltu â’r we – yn fwy diogel a saffach i bobl eu defnyddio, a chael eich barn ar y mater.
Croesewir syniadau gan rai â buddiant a diddordeb yn y mater, gan gynnwys sefydliadau unigol a gaiff eu heffeithio gan y rheoliad arfaethedig, cymdeithasau masnach, grwpiau defnyddwyr ac arbenigwyr seiberddiogelwch.
Ymatebwch erbyn 6 Medi 2020.
Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.