Ydych chi’n gwybod sut i reoli camddefnydd o gyffuriau ac alcohol yn y gwaith?
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i warchod iechyd, diogelwch a lles eu cyflogeion.
Bydd deall arwyddion camddefnydd o gyffuriau ac alcohol (neu gam-drin) yn eich helpu i reoli’r risg i iechyd a diogelwch yn eich gweithle.
Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyfarwyddyd cam wrth gam i’ch helpu chi i reoli camddefnydd o gyffuriau ac alcohol yn y gwaith.
Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i ddatblygu polisi ar gyffuriau ac alcohol a beth allwch chi ei wneud i gefnogi cyflogeion.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Managing drug and alcohol misuse at work - Overview - HSE