Mae straen yn cael ei ddiffinio gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fel 'yr adwaith andwyol mae pobl yn ei gael i bwysau gormodol neu fathau eraill o faich sy'n cael eu rhoi arnyn nhw'.
Mae rhai pobl yn elwa ar rywfaint o bwysau gan y gall gynnal eu cymhelliant. Fodd bynnag, pan mae gormod o bwysau, gall arwain at straen.
Nid salwch yw straen ond gall effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol person.
Os na chaiff ei reoli'n iawn, gall straen achosi:
- 'gorweithio' (blinder corfforol ac emosiynol)
- pryder
- iselder
Gall straen gynyddu'r risg o afiechydon corfforol. Er enghraifft:
- clefyd y galon
- poen cefn
- cyflyrau treulio fel syndrom coluddyn llidus
- cyflyrau croen
Os yw cyflogwr neu weithwyr yn sylwi ar arwyddion o straen, gall fod yn ddefnyddiol cael sgwrs anffurfiol. Gall hyn eu helpu i ddeall sut mae'r person yn teimlo a pha gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Gallai cael help atal problemau mwy difrifol.
Mae Acas wedi rhyddhau canllawiau newydd i gyflogwyr i'w helpu i reoli straen eu gweithwyr a’u straen eu hunain yn well.