Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.
Mae pedwar prif beth:
- nid yw busnesau penodol yn cael agor
- mae’n rhaid i bobl aros yn lleol a pheidio â bod dan do gydag unrhyw un nad yw’n aelod o’r aelwyd os nad oes rheswm da dros wneud hynny
- mae rheolau wedi’u gwneud am gadw pobl 2 fetr ar wahân os ydynt yn mynd allan (sef cadw pellter cymdeithasol neu gorfforol)
- ni chaiff pobl ymgynnull mewn mannau cyhoeddus ac eithrio gydag aelodau un aelwyd arall
Sut alla i gael cyngor ar beth alla i ei wneud a beth na alla i ei wneud?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ategu'r rheoliadau ac mae’r rhain yn atebion i gwestiynau cyffredin. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu ateb cwestiynau penodol gan unigolion gan y bydd yr ateb yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Mae gwasanaethau cynghori cymunedol fel Cyngor ar Bopeth ar gael ar-lein ac ar y ffôn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.