BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheoliadau diogelwch cynnyrch cyffredinol: Gogledd Iwerddon

Product design drawings

O 13 Rhagfyr 2024, disodlodd rheoliad 2023/988 yr EU ar ddiogelwch cynnyrch cyffredinol Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005 yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd llawer o fusnesau yn y DU sy'n gwerthu nwyddau yng Ngogledd Iwerddon eisoes yn mynd y tu hwnt i'r gofynion hyn ac felly'n debygol o fod â threfniadau digonol ar waith i allu cydymffurfio â nhw.

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer busnesau sy'n rhoi cynhyrchion ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Bydd yn eich cynorthwyo i ddeall y rheoliadau ac mae’n cynnwys rhwymedigaethau ar gyfer gweithgynhyrchwyr a'u cynrychiolwyr awdurdodedig, mewnforwyr, dosbarthwyr, darparwyr gwasanaethau cyflawni a darparwyr marchnadoedd ar-lein.

Mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i bob cynnyrch defnyddwyr o fewn y cwmpas fod yn ddiogel ac yn berthnasol p'un ai eu bod yn newydd, wedi cael eu defnyddio, wedi’u hatgyweirio neu wedi’u hadnewyddu. Mae asesu a yw cynnyrch yn ddiogel yn cynnwys ystyried agweddau arno fel ei nodweddion, dyluniad, nodweddion technegol, cyfansoddiad, pecynnu, cyfarwyddiadau ar gyfer ei roi at ei gilyd a’i osod, defnydd a chynnal a chadw.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Rheoliadau diogelwch cynnyrch cyffredinol: Gogledd Iwerddon - GOV.UK

Mae’r Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005 yn dal i fod yn weithredol ym Mhrydain Fawr.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.