Pan ddaw’r cyfnod atal byr i ben ar 9 Tachwedd 2020, cyflwynir cyfres newydd o fesurau cenedlaethol, a fydd yn disodli’r cyfyngiadau blaenorol.
Sut mae caffis, bwytai, tafarndai a bariau yn gallu gweithredu’n ddiogel dan do?
Bydd yn ofynnol i safle lletygarwch roi’r mesurau canlynol ar waith:
- dylai’r safle fod yn darparu gwasanaeth bwrdd yn unig
- dylid bwyta ac yfed yr holl fwyd a diod wrth fyrddau
- bydd mesurau cadw pellter corfforol yn cael eu defnyddio, fel bylchau rhwng byrddau
- cyfyngu i grwpiau o hyd at 4 o bobl (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) oni bai eu bod yn dod o un aelwyd
- rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ac eithrio pan fydd cwsmeriaid yn eistedd i fwyta neu yfed
- gofynnir i chi roi manylion cyswllt at ddibenion olrhain pobl os bydd achosion yn cael eu cysylltu â’r lleoliad, a
- ni fydd unrhyw gerddoriaeth fyw a chedwir darllediadau teledu ar lefel isel
Cliciwch ar y ddolen ganlynol Canllawiau lletygarwch y DU ar gyfer Lletygarwch yng Nghymru i gael arweiniad sydd wedi’i gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad â rhanddeiliaid y diwydiant ac sy’n berthnasol i fusnesau lletygarwch yng Nghymru sy’n ailddechrau gwasanaeth (y tu mewn a’r tu allan) ar ôl y cyfnod clo byr.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarllen rheoliadau’r Coronafeirws o 9 Tachwedd: cwestiynau cyffredin https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau