BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhestr galwedigaethau â phrinder gweithwyr: galwad am dystiolaeth

Mae Llywodraeth y DU am glywed safbwyntiau sefydliadau ar y rolau sy’n cael eu llenwi gan weithwyr mudol, eu cyflogau a goblygiadau newidiadau posibl.

Ym mis Mawrth 2020, comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i lunio rhestr galwedigaethau â phrinder yn y DU, a fydd yn canolbwyntio’n bennaf ar alwedigaethau Lefel 3-5 (sgiliau canolig) RQF. Byddwn yn adrodd ar y rhestr ym mis Medi 2020.

Mae’r argyfwng COVID-19 wedi rhoi busnesau mewn sefyllfa anodd dros ben ac efallai nad oes gan sefydliadau a fyddai’n ymateb i’r alwad am dystiolaeth fel arfer y gallu i wneud hynny ar hyn o bryd.

Felly, law yn llaw â’r brif alwad am dystiolaeth, mae opsiynau i ddarparu tystiolaeth gyfyngedig neu i gofrestru y byddech chi wedi ymateb dan wahanol amgylchiadau.

Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben am 11:45pm, 24 Mehefin 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.