BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhestr o asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym o 1 Ionawr 2021

Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio asiantau tollau i ddelio â thollau ar eu rhan. Nid yw asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym ar y rhestr hon wedi’u cymeradwyo na’u hargymell gan CThEM.

Gall fod yn dalcen caled cyflwyno datganiadau tollau mewnforio ac allforio, felly efallai y byddwch chi am ddefnyddio cwmni sy’n arbenigo yn y maes hwn.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • asiantau tollau a broceriaid
  • darparwyr cludiant
  • cwmnïau llongau
  • gweithredwyr parseli cyflym (er enghraifft, gwasanaethau negesydd neu barseli’r diwrnod canlynol)
  • asiantau sy’n arbenigol mewn diwydiant penodol, er enghraifft nwyddau ffres a deunydd fferyllol

Rhagor o wybodaeth am gael rhywun i ddelio â thollau ar eich rhan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.