BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhoi adborth ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya

20mph road sign

Sut i roi eich barn i'r awdurdod priffyrdd perthnasol am ffyrdd sydd â therfyn o 20mya.

Newidiodd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig i 20mya ym mis Medi 2023.

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r canllawiau ar eithriadau y mae awdurdodau priffyrdd yn eu defnyddio i benderfynu pa ffyrdd ddylai fod yn 30mya. Dylai hyn fod yn barod erbyn mis Gorffennaf 2024.

Wrth i ni wneud hyn, rydym am i chi roi gwybod i'ch awdurdod priffyrdd os ydych chi'n credu naill ai:

  • dylai rhan o'r ffordd sy'n 20mya fod yn 30mya
  • dylai rhan o'r ffordd sy'n 30mya fod yn 20mya

Wrth roi adborth rhaid i chi:

  • fod yn glir ac yn fanwl ynghylch pa ran o'r ffordd rydych chi'n sôn amdani
  • rhoi rhesymau pam rydych chi'n meddwl y dylai'r terfyn cyflymder newid

Byddant yn adolygu eich adborth ac yn defnyddio’r canllawiau newydd ar eithriadau i benderfynu a ddylai’r terfynau cyflymder ar unrhyw un o’r ffyrdd (neu rannau o ffyrdd) y maent yn gyfrifol amdanynt newid.

Mae hyn yn debygol o gymeryd sawl mis.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Rhoi adborth ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.