BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhoi cymorth i elusennau yn ystod yr argyfwng costau byw

Mae'r argyfwng costau byw cynyddol yn effeithio arnom ni i gyd, ac nid yw elusennau'n eithriad. 

Heriau codi arian, cynnydd mewn costau busnesau a sefydlogrwydd gwirfoddolwyr a staff yw rhai o'r materion niferus y gallai elusennau eu hwynebu.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Grŵp Cyllid Elusennau (CFG) yn rhannu detholiad o adnoddau am ddim yn eu hyb costau byw. 

Yn y cyfamser, cymerwch gipolwg ar rai o'u herthyglau defnyddiol isod: 

Bydd yr hyb costau byw yn rhoi'r syniadau, y strategaethau a'r offer sydd eu hangen arnoch i'ch helpu chi, eich timau a'ch cymunedau i weithio drwy’r argyfwng costau byw gyda'ch gilydd.  

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Charity Finance Group | Cost of living (cfg.org.uk)

Cymerwch gipolwg ar dudalennau ‘Cost of Doing Business’ Busnes Cymru ar gyfer adnoddau ymarferol a chefnogaeth sydd ei hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes. 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.