Bydd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is yn ystod gwyliau’r Pasg a’r Sulgwyn.
Mae’r ddarpariaeth yn cael ei hariannu diolch i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Yn ystod gwyliau'r Pasg bydd awdurdodau lleol unigol yn penderfynu sut i weinyddu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, naill ai drwy greu cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i deuluoedd cymwys.
Gyda'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith ar deuluoedd ledled Cymru, mae cyllid yn cael ei ddarparu i gynnig pryd ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys hyd at wyliau hanner tymor ddiwedd Mai, gan gynnwys yr holl wyliau'r banc yn ystod y cyfnod hwn.
Gallai teuluoedd fod yn gymwys i fanteisio ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau os ydynt yn cael unrhyw un neu ragor o'r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn cael Credyd Treth Gwaith a bod eich incwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth)
- Yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn
- Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am 4 wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
- Credyd Cynhwysol - rhaid i incwm eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth
Ewch i'r ddoleni ganlynol am ragor o wybodaeth am gael help:
- Hawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU
- Rhoi prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r Pasg | LLYW.CYMRU
Fel rhan o’i raglen waith i helpu plant i ddysgu am ffermio, bwyd a’r amgylchedd, mae’r corff cig coch Cymreig, Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cysylltu â’r platfform mwyaf blaenllaw ledled Prydain, Countryside Classroom, i sicrhau fod ei adnoddau addysg ar gael i fwy o blant ac athrawon nag erioed.
Mae HCC wedi buddsoddi mewn ystod newydd o adnoddau plant sy’n addas ar gyfer 3-16 oed, gan gynnwys cynlluniau gwersi, ryseitiau a gweithgareddau.
Mae’r deunyddiau ar gael ar ei blatfform www.hwbcigcoch.cymru ei hun, a bydd detholiad bellach ar gael drwy Countryside Classroom, yn Gymraeg ac yn Saesneg.