Mae Simply Business yn rhoi £25,000 i un entrepreneur lwcus i gychwyn, tyfu neu adfywio ei fusnes bach.
I gymryd rhan, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen ar-lein yn nodi pam rydych chi’n meddwl eich bod yn haeddu’r grant.
Mae’r beirniaid yn chwilio am y canlynol:
- eich stori
- breuddwyd fawr
- effaith gymdeithasol gadarnhaol
- arloesi
- cynllun pendant ag ôl meddwl arno
Y dyddiad cau yw 11 Hydref 2023.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Business Boost – win £25k to fund your small business - Simply Business UK