BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhwydwaith Busnes Cymdeithasol Cymru – Y diweddaraf am werthu i'r sector cyhoeddus

People applauding

Cyflwyniad i newidiadau i’r gyfraith caffael a sut maen nhw’n effeithio ar fusnesau cymdeithasol.

A yw eich busnes cymdeithasol yn cynnig gwasanaethau i’r sector cyhoeddus neu a hoffech chi ymchwilio i ffrwd incwm newydd? Mae rhai newidiadau ar y gweill yn y gyfraith caffael sy’n cynnig cyfleoedd i fusnesau cymdeithasol yn y sesiwn ar-lein am ddim a gynhelir ar 26 Mehefin 2024.

Ymunwch â busnesau cymdeithasol eraill ledled Cymru ac yn eich rhanbarth, ac i rannu syniadau a chael diweddariadau busnes pwysig.

Bydd arbenigwr caffael o Lywodraeth Cymru yn rhoi trosolwg ddeddfwriaeth newydd a’r dirwedd gaffael yng Nghymru, a sut mae’n berthnasol i fusnesau cymdeithasol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Social Business Wales Network - Selling to the public sector update Tickets, Wed 26 Jun 2024 at 10:00 | Eventbrite


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.