BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhwydwaith Menywod Entrepreneuraidd

Mae Enterprise Nation wedi ffurfio partneriaeth â TSB i sicrhau bod sylfaenwyr busnes benywaidd uchelgeisiol yn gallu cael mynediad at ddigwyddiadau ysbrydoledig, modelau rôl y gellir uniaethu â nhw a chymorth busnes cynhwysol am ddim.

Mae'r manteision yn cynnwys:

  • Cymorth – Cewch gyfle i gyfarfod â menywod entrepreneuraidd o'r un anian i sgwrsio, cydweithio a chefnogi eich gilydd ar eich taith.
  • Digwyddiadau a rhwydweithio – Cofrestrwch ar gyfer y Sesiwn Gymdeithasu Fisol nesaf i rwydweithio a chyfarfod â menyw entrepreneuraidd sy'n ffynnu yn ei diwydiant.
  • Dysgu a theimlo'n ysbrydoledig – cyfle i gael awgrymiadau, cyngor ac ysbrydoliaeth gan fenywod entrepreneuraidd ar eu taith entrepreneuraidd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Entrepreneurial Women | Enterprise Nation.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.