BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhybudd gwres: Rhaid i gyflogwyr baratoi am ddyfodol cynhesach

Mae angen i gyflogwyr weithredu nawr i sicrhau bod eu gweithleoedd yn barod ar gyfer tywydd cynhesach yn y dyfodol.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynghori busnesau i feddwl sut mae angen iddynt addasu i amodau gwaith cynhesach i'w staff.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr o dan Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith i asesu risgiau i iechyd a diogelwch gweithwyr. Rhaid iddynt adolygu'r rheolaethau risg sydd ganddynt ar waith a'u diweddaru os oes angen. Mae hyn yn cynnwys risgiau o dywydd eithafol amlach fel tywydd poeth. 

Er nad oes uchafswm tymheredd ar gyfer gweithleoedd, mae gan bob gweithiwr hawl i amgylchedd lle mae risgiau i'w hiechyd a'u diogelwch yn cael eu rheoli'n briodol. Mae gwres yn cael ei ystyried yn berygl ac mae rhwymedigaethau cyfreithiol ynghlwm iddo fel unrhyw berygl arall.

Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles), sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu tymheredd rhesymol yn y gweithle.

Gallwch ddod o hyd i ragor o arweiniad ar gymryd camau ymarferol i weithio'n ddiogel mewn amodau poeth: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.