Gan fod siopau sy’n gwerthu nwyddau dianghenraid wedi ail-agor, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn atgoffa perchnogion siopau a darparwyr gwasanaethau eraill ei bod yn debygol bod gweithredu polisïau cyffredinol sy’n atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau os nad oes ganddynt orchudd wyneb yn achos o wahaniaethu.
Mae’r Comisiwn yn cefnogi busnesau’n llwyr wrth iddynt gyflwyno polisïau i ddiogelu’r cyhoedd a’u staff. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn cael eu heithrio o’r orfodaeth gyfreithiol i wisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus caeedig am resymau cyfreithlon. Mae’r rhain yn cynnwys pobl sy’n methu gwisgo masg oherwydd cyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu bobl sy’n helpu rhywun sydd angen darllen gwefusau. Gallai peidio â gweithredu’r eithriadau hyn roi rhai pobl o dan anfantais a gellid ystyried hynny’n fethiant i wneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Darllenwch y canllaw pedwar cam syml i fanwerthwyr sy’n eu hatgoffa o’u rhwymedigaethau cyfreithiol a beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod cwsmeriaid anabl yn gallu defnyddio eu gwasanaethau yn ystod y pandemig.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.