BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhybudd o honiadau ffug

Person holding a sign with an exclamation mark.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn ymwybodol o honiadau ffug mai’r dyddiad cau ar gyfer apeliadau i restrau ardrethu 2023 yw 30 Mehefin.

Nid yw hyn yn wir. Dylech fod yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n gwneud yr honiad hwn.

Yn gyffredinol, gallwch herio prisiad eich eiddo ar restr 2023 ar unrhyw adeg tan fis Mawrth 2026.

Dylech fod yn ofalus o unrhyw asiant sydd:

  • yn ceisio rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad neu lofnodi cytundeb
  • gwneud honiadau am ‘gredydau heb eu hawlio’ neu debyg
  • yn dweud eu bod yn gweithredu ar ran y VOA
  • yn mynnu symiau mawr o arian ymlaen llaw

Cofiwch – nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i reoli eich ardrethi busnes. Peidiwch â gadael i asiant eich dewis chi.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Rhybudd o honiadau ffug - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.