BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesu am sgamwyr sy’n hawlio eu bod nhw o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Dylai cwsmeriaid Hunanasesu gadw llygad ar agor am droseddwyr sy’n hawlio eu bod nhw o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Gan fod yr adran yn cyhoeddi miloedd o negeseuon SMS ac e-bost fel rhan o’i hymgyrch flynyddol i annog pobl i lenwi eu ffurflenni treth Hunanasesu, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn rhybuddio cwsmeriaid sy’n llenwi eu ffurflenni i osgoi cael eu twyllo gan sgamwyr. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth yw 31 Ionawr 2021.

Mae llawer o sgamiau yn targedu cwsmeriaid i’w hysbysu bod ‘ad-daliad treth’ ffug yn ddyledus iddynt. Mae’r troseddwyr yn defnyddio iaith i’w darbwyllo i drosglwyddo gwybodaeth bersonol, gan gynnwys manylion banc, er mwyn hawlio’r ‘ad-daliad’. Bydd troseddwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon i gael mynediad at gyfrifon banc cwsmeriaid, i’w twyllo i dalu biliau ffug neu i werthu eu gwybodaeth bersonol i droseddwyr eraill.

Gall cwsmeriaid roi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am weithgarwch amheus drwy anfon e-bost i phishing@hmrc.gov.uk neu drwy anfon neges destun i 60599. Gallant hefyd roi gwybod am sgamiau ffôn ar-lein yn GOV.UK.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn rhybuddio’r cyhoedd hefyd i fod yn ymwybodol o wefannau sy’n codi tâl am wasanaethau’r llywodraeth – megis safleoedd cysylltu galwadau – er bod y gwasanaethau hyn ar gael am ddim neu ar gyfraddau galwad leol mewn gwirionedd. Mae cwmnïau eraill yn codi tâl ar bobl am help i gael ‘ad-daliadau treth’. Un ffordd o hawlio ad-daliad treth am ddim yn ddiogel yw drwy fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.