Ar 20 Hydref 2022, cyhoeddwyd drafft newydd o’r ‘Strategaeth ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd’ er mwyn ymgynghori arni. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn partneriaid Tîm Cymru a'r cyhoedd am sut y gallwn gydweithio i annog a chefnogi unigolion, aelwydydd a chymunedau ledled Cymru i chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Yn allweddol i gymhelliant pobl i weithredu ar newid yn yr hinsawdd yw pwysigrwydd pobl eraill yn arwain drwy esiampl, yn enwedig gweithredu gweladwy gan ddiwydiant a busnes fel elfen bwysig o bobl yn credu nad yw difrifoldeb y materion yn cael eu gorbwysleisio. Mae'r Strategaeth newydd hon hefyd yn archwilio rôl busnesau (yn gweithio ochr yn ochr â'r Llywodraeth a'r byd academaidd) i fynd i'r afael â'r seilwaith tymor hwy, arloesedd ac atebion technoleg sy'n rhwystrau rhag gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 14 Rhagfyr 2022.
Wythnos Hinsawdd Cymru
Diben Wythnos Hinsawdd Cymru eleni (21 i 25 Tachwedd 2022) yw cefnogi'r ymgynghoriad ar y Strategaeth ddrafft. Agorwyd y gynhadledd rithwir gan y Gweinidog ar Newid yn yr Hinsawdd ar 21 Tachwedd 2022, gan ddechrau ar fwy nag 20 sesiwn yn ymwneud â thrafodaethau ar sut y gallem gefnogi'r cyhoedd ar y cyd wrth weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Bu nifer o sesiynau'n trafod rôl busnesau yn helpu i ddatgloi rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.
Os golloch chi’r gynhadledd rithiol, cafodd yr holl sesiynau eu recordio a gellir eu gwylio'n ôl drwy adran Ar Alw i'w gyhoeddi ar wefan Wythnos Hinsawdd Cymru ar ddiwedd yr wythnos. Hefyd, ewch I'r Wal Addunedau i ddysgu mwy am y camau y gallwch eu cymryd fel etifeddiaeth o'r digwyddiad eleni.