Mae ymgynghoriad wedi’i lansio gyda’r nod o roi mwy o bŵer i’r Comisiynydd Busnesau Bach fel y gall gefnogi busnesau a datrys problemau taliadau hwyr.
Mae cynigion newydd wedi’u hamlinellu gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau bach yn y DU yn cael eu talu’n brydlon
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio cael safbwyntiau ar rinweddau:
- cryfhau gallu’r Comisiynydd Busnesau Bach i gynorthwyo busnesau bach drwy ddarparu mecanweithiau effeithiol iddynt gael iawndal, mewn perthynas â thaliadau hwyr
- pwerau newydd arfaethedig, gan gynnwys gorchymyn busnesau i dalu’n brydlon a rhoi dirwyon os nad ydynt yn gwneud hynny, gan orchymyn cwmnïau i rannu gwybodaeth am arferion talu a’r pwerau i lansio ymchwiliadau
Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad yma a’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 24 Rhagfyr 2020.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.