BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Safon Newydd Prydain ar Gaethwasiaeth Fodern

Mae BSI wedi cyhoeddi safon genedlaethol arloesol, gan roi arweiniad i sefydliadau ar sut i reoli risgiau caethwasiaeth fodern yn eu gweithrediadau, cadwyni cyflenwi ac amgylchedd gweithredu ehangach.

Mae BS 25700 yn rhoi arweiniad i sefydliadau ar gyfer mynd i'r afael â'r risg o gaethwasiaeth fodern, gan gynnwys atal, amlygu, ymateb, adfer, lliniaru, ac adrodd.

Mae'r buddion i fusnesau yn cynnwys: 

  •  Rheoli'r risg o gaethwasiaeth fodern yn effeithiol mewn ffordd sy'n cefnogi diwydrwydd dyladwy hawliau dynol
  • Enw da a phositif i'r busnes
  • Mwy o werthiannau a theyrngarwch gan gwsmeriaid, wrth i ddefnyddwyr chwilio am fusnesau sydd â safonau moesegol uwch
  • Mwy o allu i ddenu doniau a chadw staff
  • Hyder gwell gan fuddsoddwyr
  • Cadwyni cyflenwi mwy ymatebol a sefydlog

I gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho'r Safon, cliciwch ar y ddolen ganlynol BS 25700:2022 Organizational responses to modern slavery – Guidance | BSI (bsigroup.com)

Llywodraeth Cymru: cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi

Sefydlwyd y Cod Ymarfer hwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi mwy moesegol i gyflwyno contractau ar gyfer sector cyhoeddus Cymru a sefydliadau trydydd sector sy'n derbyn arian cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog sefydliadau eraill i gofrestru ar gyfer y cod. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.