BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sbarduno’ch twf

Ydych chi’n adeiladu cynnyrch arloesol cynaliadwy ac am dyfu’n gyflym a sicrhau’r effaith fwyaf bosibl?

Mae’r rhaglen Amazon Launchpad Sustainability Accelerator yn rhaglen 3 mis heb ecwiti sy’n cefnogi busnesau newydd yn eu dyddiau cynnar sy’n adeiladu cynhyrchion sydd wedi’u llunio gan ystyried eu heffaith amgylcheddol.

Os ydych chi’n fusnes newydd ar ei gamau cyntaf sy’n adeiladu cynnyrch ffisegol ac yn ystyried effaith amgylcheddol, gwnewch gais i’r rhaglen Amazon Launchpad Sustainability Accelerator cyn 25 Mawrth 2022.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu mentora gan arbenigwyr, byddant yn cael mynediad at rwydwaith o entrepreneuriaid tebyg a £30,000 mewn arian parod a chredydau.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Amazon Launchpad Sustainability Accelerator


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.