BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sbardunwch ddatblygiad eich busnes mewn 3 mis

Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cyfle anhygoel i chi uwchsgilio ac uwchraddio eich busnes a mireinio, datblygu a lansio eich cynnyrch i’w farchnata a sicrhau contract gwaith!

Os ydych chi’n entrepreneur, yn gwmni newydd, neu’n gwmni sy’n uwchraddio gyda; chynnyrch neu gynnyrch ar y camau cynnar, y gellir ei ddatblygu i wella’r profiad i deithwyr Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, rydym yn credu y byddai’r rhaglen yn gweddu’n dda i chi. 

Gallwch wneud hyn mewn dim ond 12 wythnos gyda Lab gan Trafnidiaeth Cymru (LTrC) - y rhaglen gyflymu arloesi gan TTrC.

LTrC yw’r unig ddarparwr penodol ar gyfer arloesi ar y rheilffyrdd yng Nghymru - ac maent yn recriwtio ar gyfer cohort 3 eu cyflymydd arloesi o bell.

Dros y 12 wythnos, bydd y rhaglen yn tywys eich busnes newydd o’r syniad gwreiddiol, i ddatblygu prototeip yn seiliedig ar adborth rhanddeiliad a data cwsmeriaid go iawn, i wneud cyflwyniad am gontract gwaith gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn TTrC. 

Mae gennych chi tan hanner nos ar y 4 Ebrill 2021 i wneud cais: https://www.f6s.com/labbytransportforwalescohort3
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.