BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

SBRI Heriau’r Diwydiant Ymasiad: cam un

Mae hon yn gystadleuaeth Small Business Research Initiative (SBRI) a ariennir gan yr UK Atomic Energy Authority (UKAEA).

Gall sefydliadau wneud cais am gyfran o £2 filiwn i ddatblygu atebion i annog arloesedd yn y diwydiant ymasiad drwy ddefnyddio: 

  • systemau gwresogi ac oeri newydd ac arloesol 
  • defnyddiau 
  • gweithgynhyrchu a thechnolegau

I arwain prosiect, gallwch: 

  • fod yn sefydliad o unrhyw faint 
  • gweithio ar eich pen eich hun neu gyda sefydliadau eraill fel isgontractwyr 

Dyfernir contractau i un endid cyfreithiol yn unig. 

Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Mercher, 22 Mehefin 2022, am 11am. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Competition overview - SBRI: Fusion Industry Challenges - phase 1 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.