Mae’r rhaglen hon yn agored i bob menyw yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gobeithio rheoli neu sydd yn ei swydd reoli gyntaf.
Bwriad Sbringfwrdd yw galluogi menywod i roi mwy a chael mwy allan o’u gwaith. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y sector staff sy’n draddodiadol heb ei ddatblygu’n llawn: menywod nad ydyn nhw’n rheolwyr.
Mae’r rhaglen o blaid menywod, nid yn erbyn dynion. Unig fwriad yr agwedd ‘menywod yn unig’ yw rhoi’r amgylchedd dysgu mwyaf ffafriol ichi ddysgu. Mae’n golygu bod y broses, y cynnwys, yr enghreifftiau a’r astudiaethau achos i gyd yn cyfeirio’n benodol at faterion menywod.
Mae hyn yn cyflymu’r broses yn sylweddol, gan sicrhau bod amser ac egni’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Mae Sbringfwrdd yn addas i fenywod o bob oedran ac ar bob cam o’u bywydau, boed yn abl neu’n anabl, o bob cefndir a hil a beth bynnag yw eich gobeithion a’ch amgylchiadau personol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sbringfwrdd - Trosolwg - Digwyddiadau - Academi Wales (gov.wales)