Bydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth 2021 wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog.
Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill 2021, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Am y pythefnos nesaf, dim ond y rhai sydd ag esgus rhesymol, megis gwaith, fydd yn gallu teithio i mewn i Gymru neu allan o Gymru.
Newidiadau eraill:
- Bydd chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol, ac eithrio plant o dan 11 oed, yn gallu cyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored ac mewn gerddi preifat;
- Bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a chwaraeon i blant a phobl ifanc dan 18 oed yn gallu ailddechrau;
- Bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor gyda chyfyngiadau a rhai lleoedd a gerddi hanesyddol;
- Bydd llyfrgelloedd ac archifau yn gallu ailagor.
Dyma gamau olaf y llacio yn y cylch adolygu tair wythnos hwn ac maent yn dilyn llwyddiant disgyblion cynradd a llawer o fyfyrwyr hŷn mewn ysgolion uwchradd a cholegau yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb a dechrau ailagor manwerthu nad yw'n hanfodol fesul cam, gan gynnwys agor siopau trin gwallt.
Mae Cymru'n symud allan o rybudd lefel pedwar, ac yn awr yn dechrau symud i lefel tri. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried mesurau rhybudd lefel tri pellach yn yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.