BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sefydliad y Teulu Ashley

Love spoon workshop

Mae Sefydliad y Teulu Ashley (Sefydliad Laura Ashley gynt) yn elusen gofrestredig a sefydlwyd gan Syr Bernard a Laura Ashley yn dilyn llwyddiant busnes ffasiwn ac eitemau dodrefnu mewnol Laura Ashley.

Mae’r Sefydliad yn ariannu sefydliadau sydd wedi’u lleoli ac sy’n gweithio gyda phobl yng Nghymru gyda ffocws cryf ar gelfyddyd, crefft (yn enwedig treftadaeth), addysg er budd pawb ond yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n ynysig neu fwyaf anghenus yn eu cymuned.

Mae'r Sefydliad yn ariannu ceisiadau o hyd at £10,000 ac sy'n cynrychioli o leiaf 10% o gost gyffredinol y prosiect.

Mae ceisiadau bellach ar agor a’r dyddiad cau ar gyfer y rownd gyllido hon yw 6 Medi 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: How to apply — The Ashley Family Foundation


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.