BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sefydlu Cronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf gwerth £5.25 miliwn

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £5.25 miliwn ar gael i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sinemâu annibynnol Cymru drwy fisoedd y gaeaf.

Diben y gronfa hon yw cefnogi sefydliadau sydd mewn trafferthion gwirioneddol - sydd mewn perygl o gau neu y bydd swyddi'n cael eu colli - oni bai bod cymorth pellach yn cael ei ddarparu. Rhaid i'r risg hon fod o ganlyniad uniongyrchol i effaith barhaus Covid-19.

Bydd y gronfa newydd yn rhoi cymorth hanfodol i sefydliadau yn y sectorau diwylliannol hyn ledled Cymru, llawer ohonynt yn cael eu rhedeg yn wirfoddol neu ddielw.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cydweithio i ddadansoddi'r sectorau hyn a nodi'r angen am gymorth ychwanegol, er mwyn sicrhau bod sefydliadau yn y sectorau hyn yn parhau i fod yn hyfyw dros y misoedd nesaf.

Bydd y gronfa, a fydd yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2022, yn agor ar gyfer ceisiadau ddydd Mercher 12 Ionawr 2022 a bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cyflwyno cais ar-lein erbyn y dyddiad cau o 5pm ddydd Mercher 26 Ionawr 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.