BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Seiberddiogelwch ar gyfer Unig Fasnachwyr a Microfusnesau

Os ydych chi’n gweithio i chi eich hun neu’n rhedeg busnes bach gyda llai na 10 o weithwyr, does dim rhaid i seiberddiogelwch fod yn dalcen caled i berchnogion busnesau bach.

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi llunio camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun ar-lein, ac mae Cyber Aware yn hyrwyddo chwe cham ymarferol i helpu i’ch diogelu chi a’ch busnes.

Gyda’i gilydd, maen nhw’n helpu i’ch diogelu chi a’ch busnes rhag y mwyafrif o droseddau ar-lein. Maen nhw’n helpu i’ch cadw’n ddiogel drwy ddiogelu’ch cyfrineiriau, eich cyfrifon a’ch dyfeisiau. A does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr TG i’w rhoi ar waith.

Gall busnesau hefyd gwblhau adnodd hunanasesu  i helpu i weld pa mor ddiogel ydyn nhw rhag bygythiadau seiber a bydd yr adnodd hefyd yn rhoi cyngor ar feysydd i’w gwella. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan NCSC.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.