Mae Rhaglen Seiberdroseddu Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn gweithio ar draws maes gorfodi’r gyfraith i ddatblygu gallu, adnoddau ac offer i helpu plismona i weithio gydag unigolion a busnesau i fynd i’r afael â bygythiad cynyddol seiberdroseddu. Mae SeiberLarwm yr Heddlu ymhlith nifer o fentrau a ddatblygwyd gan y Rhaglen.
Offeryn am ddim yw SeiberLarwm yr Heddlu, a ddarperir gan eich heddlu lleol ac a ariennir gan y Swyddfa Gartref, i helpu’ch busnes neu’ch sefydliad i fonitro ac adrodd am y gweithgarwch seiber amheus y mae’n ei wynebu.
Bydd SeiberLarwm yr Heddlu yn canfod ac yn darparu adroddiadau rheolaidd am weithgarwch seiber amheus a gwendidau, gan alluogi eich busnes neu’ch sefydliad i adnabod a lliniaru ei risgiau seiber.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Police CyberAlarm