BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Seminar Ar-lein: Pontio ynni yng Nghymru – ymrwymiadau, partneriaethau a blaenoriaethau

Gyda Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Ymchwil Polisïau Ewropeaidd, Prifysgol Strathclyde.

Mae'r prosiect TRACER a ariennir o dan raglen Horizon 2020 wedi bod yn ymchwilio i sut mae Cymru ac wyth ardal glo-ddwys (a chyn-ardaloedd glo-ddwys) Ewropeaidd eraill yn rheoli'r broses o bontio tuag at systemau ynni mwy cynaliadwy. Mae trafodaethau yn 2020/21 gyda rhanddeiliaid allweddol yn y broses o bontio ynni yng Nghymru wedi amlinellu naratif cryf o ddau gyfnod pontio, gyda dimensiynau tiriogaethol dwys. Y cyntaf yw'r newid i ffwrdd o lo - mae Cymru'n dal i ddelio ag anghydraddoldebau strwythurol, gofodol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r gorffennol. Yr ail yw'r newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae'r rhain yn wahanol o ran technolegau, anghenion ymchwil, cyd-destun polisi ac achosion tiriogaethol. Ar yr un pryd, mae Cymru'n uchel ei barch tuag at weithgarwch ymchwil a datblygu sy'n gysylltiedig ag ynni, gyda llawer o sefydliadau a chysylltwyr arloesol, a chlystyrau ynni adnewyddadwy addawol.

Gan barhau â'r ddeialog hon, fe'ch gwahoddir i fynychu seminar ar-lein ar 'Pontio ynni yng Nghymru – ymrwymiadau, partneriaethau a blaenoriaethau'. Bydd y seminar hon yn:

  • adolygu dulliau arloesol o bontio ynni yng Nghymru hyd yma
  • trafod sut mae'r cyfleoedd a'r anghenion ar gyfer arloesi yn amrywio ledled Cymru
  • nodi cyfleoedd ariannu yn y meysydd lle mae angen cymorth fwyaf 

Cynhelir y seminar ar-lein ar 1 Rhagfyr 2021.

Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfod yn rhad ac am ddim yma: Meeting Registration - Zoom

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.