Menywod dros 50 oed yw’r grŵp sy’n tyfu gyflymaf yng ngweithlu’r DU. Mae’r menopos yn rhan naturiol o fynd yn hŷn ac fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed. Yr oed cyfartalog i fenyw gyrraedd y menopos yw 51.
Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn profi symptomau’r menopos. Gall rhai o'r rhain fod yn eithaf difrifol a chael effaith sylweddol ar weithgareddau bob dydd.
Mae tair o bob pump (59%) o fenywod rhwng 45 a 55 oed sy'n gweithio ac yn profi symptomau’r menopos yn dweud ei fod yn cael effaith negyddol arnyn nhw yn y gwaith ar hyn o bryd. Wrth i fwy o fenywod fynd trwy'r menopos yn ystod eu bywydau gwaith, mae'n hanfodol bod cyflogwyr yn mynd i’r afael â’r mater.
Mae cyflogwyr arfer gorau yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o’r menopos oherwydd eu bod yn poeni am les eu gweithwyr; yn ei dro, mae hyn yn helpu gweithwyr i roi o’u gorau yn eu gwaith, ac felly’n cynnal cynhyrchiant a theyrngarwch a chadw gweithwyr dawnus.
Mynychwch sesiynau hyfforddi rhad ac am ddim Academi Wales isod:
- Why Discuss the Menopause at Work? – 16 Gorffennaf 2024
- Menopause - for Men Supporting Women – 14 Awst 2024
- Menopause Awareness for Senior Leaders – 12 Medi 2024
Mae'r hyfforddiant yn agored i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, elusennau cofrestredig neu sefydliadau sector preifat sy'n gweithredu yng Nghymru.
Gwasaneth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS)
Adnodd cymorth ar-lein a ddarperir gan Busnes Cymru yw BOSS. Mae’n cynnig gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth diduedd wedi'i ariannu'n llawn i unigolion a busnesau yng Nghymru. Mae cofrestru ar gyfer cyfrif BOSS yn rhoi mynediad unigryw i chi i gyrsiau wedi'u hariannu'n llawn sydd wedi’u creu gan arbenigwyr i'w cwblhau yn eich amser eich hun. Mae’r cyrsiau yn amrywio o gynllunio ariannol, lleihau carbon, gwella cynhyrchiant, i recriwtio a datblygu staff. Cofrestrwch heddiw: Homepage | BOSS (gov.wales)