Mae Enterprise Nation yn cydweithio â Meta er mwyn cefnogi menywod ledled y DU sydd eisiau dechrau neu dyfu busnes, gyda hyfforddiant ar-lein am ddim ar gyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol.
Mae'r hyfforddwyr #SheMeansBusiness achrededig yn cyflwyno calendr bywiog o hyfforddiant rhithwir a digwyddiadau gydol y flwyddyn i gefnogi menywod arloesol i wthio ffiniau ac ailddiffinio'r hyn sy'n bosibl i entrepreneuriaid benywaidd. Mae'r fenter yn cynnwys digwyddiadau chwarterol, cyfarfodydd misol a chanolfan adnoddau bwrpasol ar blatfform ar-lein Enterprise Nation.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i She Means Business | Enterprise Nation