BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Siarter Budd-daliadau Cymru

Person comforting an older person

Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi addo bod "gan Siarter Budd-daliadau Cymru y potensial i fod o fudd i filoedd o bobl sy'n byw mewn tlodi".

Nod Siarter Budd-daliadau Cymru yw ei gwneud hi'n haws i bobl hawlio eu holl gymorth ariannol drwy greu system fwy cydlynol – fel bod dim ond rhaid i berson adrodd ei stori unwaith i hawlio'r hyn y mae ganddo'r hawl i'w gael.

Mae'r Siarter wedi'i chymeradwyo gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, a'i datblygu gyda'r nod o gefnogi'r bobl fwyaf difreintiedig.

Mae'r gwaith i ddatblygu System Budd-daliadau Cymru, gan gynnwys datblygu'r Siarter, yn gysylltiedig ag ymrwymiadau yng Nghytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: 'Bydd Siarter Budd-daliadau Cymru yn ei gwneud yn haws i bobl hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael', meddai'r Gweinidog | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.