Ym mis Medi 2023 lansiodd Llywodraeth Cymru y Siarter Rhianta Corfforaethol, sy'n ceisio cefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Mae'r Siarter yn nodi un ar ddeg o egwyddorion y dylai’r holl gyrff cyhoeddus a'u harweinwyr eu dilyn i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phob plentyn neu berson ifanc arall yng Nghymru. Rhaid parchu eu hawliau yn yr un modd, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’n bod yn gwrando ac yn gweithredu arnynt.
Gall unrhyw gorff cyhoeddus, sefydliad y trydydd sector neu fusnes lofnodi’r Siarter.
I gael rhagor o wybodaeth ac i lofnodi’r Siarter, ewch i Siarter rhianta corfforaethol | LLYW.CYMRU