Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad newydd gyffrous rhwng S4C a Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Ffilm Cymru i gefnogi ffilmiau Cymraeg sydd â’r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol.
O dan raglen Sinema Cymru, bydd o leiaf tair ffilm yn cael eu datblygu bob blwyddyn, gyda’r bwriad y bydd un o’r ffilmiau hynny’n cael ei dewis ar gyfer cyllid cynhyrchu.
Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map a helpu ffilmiau Cymraeg annibynnol sy’n feiddgar, yn anghonfensiynol ac sydd â’r potensial i gael eu rhyddhau mewn sinemâu yn rhyngwladol. Mae’r rhaglen yn awyddus iawn i hyrwyddo lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli wrth bortreadu’r Gymraeg a gwthio ffiniau o ran yr hyn rydym yn ei alw’n ffilm Gymraeg.
Mae Sinema Cymru yn rhaglen datblygu talent ac yn gronfa ffilmiau ac mae’n gweithio gyda thimau creadigol i greu cynlluniau datblygu gyrfa pwrpasol yn ogystal â chymorth prosiect.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol: