BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioe Deithiol Contractau Seilwaith Affrica

Construction workers safety helmets

Mae Adran Busnes a Masnach y DU (DBT) yn Affrica, ochr yn ochr â Gwledydd a Rhanbarthau’r DU, yn cyflwyno'r Sioe Deithiol Peirianneg, Caffael ac Adeiladu (EPC) rhwng 17 a 20 Chwefror 2025, a gynhelir yn Llundain, Caerdydd a Manceinion. Bydd y digwyddiad hwn yn cysylltu contractwyr EPC blaenllaw â busnesau cadwyn gyflenwi'r DU sy'n cymryd rhan mewn prosiectau seilwaith mawr ledled Affrica.

Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i arddangos eu harbenigedd, trafod anghenion caffael, a dysgu sut i ymuno â rhestrau gwerthwyr a chontractwyr. Bydd y Sioe Deithiol yn cynnwys is-sectorau allweddol, gan gynnwys adeiladu, ffyrdd, pontydd, meysydd awyr, rheilffyrdd, dŵr, porthladdoedd, a theithio cyflym ar fysiau (BRT).

Dyma gyfle i archwilio cyfleoedd busnes newydd ac ehangu eich rhwydwaith proffesiynol yn sector seilwaith cynyddol Affrica.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, dewiswch y ddolen ganlynol: Home 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.