BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioe Frenhinol Cymru 2024

Person showing a horse at the Royal Welsh Show

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2024 rhwng 22 Gorffennaf a 25 Gorffennaf.

Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau dangos da byw, â chystadleuwyr yn teithio o fannau pell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb, diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous.

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol ar gyfer cwmniau sy’n cynnig nwyddau megis cynnyrch amaethyddol, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, taclau garddio, pob mathau o nwyddau i’r cartref a llawer iawn rhagor.

Ffeithiau Sioe Frenhinol Cymru:

  • Bydd ymwelwyr yn gwario bron iawn £10 miliwn wrth ymweld â Sioe Frenhinol Cymru
  • Amcangyfrif bod gwerthiant eilaidd (masnach busnes yn bennaf) yn werth dros £6 miliwn
  • Mae’n debyg y bydd gwerth £3 miliwn o fudd economaidd ychwanegol wrth i werthiant symud i lawr y gadwyn gyflenwi
  • Mae 82% o fasnachwyr wedi cynnal stondin masnach yn sioe yn ystod blynyddoedd blaenorol
  • Credai 83% o fasnachwyr bod y proffil ymwelwyr yn cyd-fynd â’u disgwyliadau
  • Dywedodd 9 o bob 10 masnachwr eu bod yn credu y byddent yn mynychu sioe y flwyddyn nesaf
  • Cafodd 70% o fasnachwyr eu cymell i fynychu’r sioe i hyrwyddo eu brand, ac roedd 55% yn gobeithio gwerthu yn uniongyrchol i bobl
  • Dywedodd 96% o fasnachwyr y byddent yn argymell Sioe Frenhinol Cymru i fasnachwyr eraill!

Os hoffech chi arddangos ym mhrif ddigwyddiad Cymru, i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Ymgeisiwch am stondin masnach - Royal Welsh Cymru (cafc.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.