BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioe StartUp 2023

Mae’r sioe fwyaf i fusnesau newydd yn y flwyddyn newydd yn ôl!

P'un a ydych chi'n ddarpar entrepreneur neu'n entrepreneur presennol, mae'n rhaid i chi fynychu’r StartUp Show. Mae'n gyfle i chi nid yn unig ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am ddechrau busnes ond hefyd i gysylltu â chynghorwyr ac arbenigwyr busnes a fydd yn helpu i fynd â'ch menter i'r lefel nesaf.

Cynhelir y digwyddiad ar 28 Ionawr 2023 yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Mae tocynnau y cyntaf i’r felin yn costio £10 (cofrestrwch erbyn 31 Rhagfyr 2022). 

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, byddwch yn derbyn mynediad at y recordiadau o'r prif lwyfan – a fydd yn cynnwys cyngor campus gan entrepreneuriaid ysbrydoledig.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol StartUp Show: The biggest start-up event in London (enterprisenation.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.