Bydd Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain yn cael ei chynnal rhwng 20 Mawrth a 21 Mawrth 2024 yn yr NEC, Birmingham. Mae’n dwyn ynghyd gwestai, atyniadau a chyrchfannau sy'n awyddus i gyfarfod a gweithio gyda phobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ac yn gyfrifol am gynllunio gwyliau, tripiau a theithiau.
Bydd y sioe yn denu 3,000 o ymwelwyr ac ymysg y rheini fydd yn bresennol mae:
- cwmnïau bysiau
- cwmnïau teithio
- trefnwyr teithiau grŵp
- asiantaethau teithio
- gwasanaethau teithio
- y cyfryngau a chymdeithasau
Pwy ddylai arddangos?
Cyflenwyr twristiaeth sy'n awyddus i weithio gyda’r byd teithio, gan gynnwys:
- gwestai
- atyniadau i ymwelwyr
- cwmnïau marchnata cyrchfannau
- arbenigwyr lleol
- darparwyr cludiant
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan British Tourism & Travel Show
Ewch i dudalennau Twristiaeth Busnes Cymru am gymorth wedi ei deilwra ar gyfer eich busnes twristiaeth.