BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioeau Busnes Cymru 2022

Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae’n cynnwys tair sioe genedlaethol.

Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau.

Mae’r sioeau’n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy’n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio.

Dyddiadau a lleoliadau eleni yw:

  • 5 Ebrill 2022 – Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
  • 1 Mehefin 2022 – Cwrs Ras Ffos Las, Sir Gaerfyrddin 
  • 4 Hydref 2022– Stadiwm Liberty, Abertawe

Mae’r sioeau am ddim os ydych chi’n cofrestru ymlaen llaw, ac mae cyfleoedd hefyd i arddangos.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sioeau Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.